LloydTHOMASYn dawel yn ei gartref ar Awst 23, 2014, Lloyd o Fferm Hafodwen, Heol Llansteffan, Tre Ioan, Caerfyrddin; priod hoff Eunice, tad annwyl Hazel, Wyndham a Phyllis, tadcu a hen dadcu cariadus, tad-yng-nghyfraith parchus Vyvyan a Buddug a brawd annwyl Florence. Angladd preifat yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth ddydd Sadwrn, Awst 30 am 12.15yp. Dim blodau ond cyfraniadau er cof, os dymunir, i Meddygfa Furnace House neu i Nyrsys yn y Gymuned trwy law Glanmor Davies Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PG
Keep me informed of updates